Ar Y Soffa cover art

Ar Y Soffa

Ar Y Soffa

Written by: Golwg Cyf.
Listen for free

About this listen

Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru. Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg.Golwg Cyf. Art Social Sciences
Episodes
  • Dal Y Mellt
    Feb 10 2026
    Un arall o gyfresi trosedd S4C sydd dan sylw’r mis yma, sef Dan y Mellt. Yn dilyn y gyfres gyntaf, mae’r sioe yn dychwelyd gyda thôn hollol wahanol i unrhyw beth welwyd ar S4C o’r blaen.

    Lladrad traddodiadol sydd wrth galon y stori, gyda themâu cryf o drosedd a brad, wrth i’r criw gael eu tynnu’n ôl i fyd peryglus sy’n profi eu teyrngarwch a’u perthnasau i’r eithaf.

    Beth sydd gan Kate a Gwilym i ddweud am y gyfres hon? Gwrandwch ar bodlediad Ar y Soffa i glywed mwy.
    Show More Show Less
    45 mins
  • STAD
    Dec 16 2025
    Pa mor debyg ydy cyfres STAD â bywyd go iawn yng Nghaernarfon?Dyna un o’r pethau sydd ar feddwl Dyfan a Kate wrth drin a thrafod cyfres nos Sul ddiweddaraf S4C.

    Cwmni Golwg sy’n cynhyrchu Ar y Soffa - y podlediad sy’n trafod ac yn dadansoddi’r hen a’r newydd yn sîn ffilm a theledu Cymru.
    Show More Show Less
    35 mins
  • Y Golau: Dŵr
    Nov 6 2025
    Un arall o gyfresi trosedd S4C sydd dan y chwyddwydr y mis yma, sef Y Golau: Dŵr.

    Mae’n dilyn stori Caryl Hughes, y myfyriwr prifysgol sy’n astudio newyddiaduraeth, ac sydd nôl yn Llanemlyn ar drywydd stori am gronfa ddŵr yr ardal.

    Yn ôl Kate Woodward, mae yma gyswllt difyr Cymreig rhwng y gyfres â ffilm Yr Ymadawiad, cyfresi Pen Talar ac Under Salt Marsh, a hyd yn oed Pobol y Cwm yn ddiweddar... tybed beth yw hynny? Ac ydy’r gyfres yma’n llwyddo i blesio Kate a Gwilym?

    Gwrandwch ar bodlediad Ar y Soffa i glywed mwy.
    Show More Show Less
    43 mins
No reviews yet