Sŵntrack gyda Joe cover art

Sŵntrack gyda Joe

Sŵntrack gyda Joe

Written by: Joe Morgan
Listen for free

About this listen

Yn bob pennod, mae Joe yn cael sgwrs hamddenol gyda artistiaid, DJiaid, cynhyrchwyr a phobl sy’n rhan o’r byd cerddoriaeth Gymraeg. O enwau newydd i wynebau cyfarwydd. Trafodir popeth o ysbrydoliaeth a gigs i ganeuon newydd a'r daith greadigol. Wedi’i greu fel platfform i ddathlu a rhannu miwsig Cymraeg mewn ffordd onest a chroesawgar, mae’r podlediad yn agored i bawb – boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu’n ddysgwyr brwd.Joe Morgan Music
Episodes
  • Pennod 9 - Awni
    Apr 24 2026

    Yn yr episod hwn o Sŵntrack, dwi’n eistedd lawr gyda Jona o Awni - y platfform newydd sy’n gwneud hi’n haws nag erioed i ddod o hyd i gigs Cymraeg ledled Cymru. Gyda lansiad eu ap newydd, mae popeth rwyt ti angen mewn un lle 👀

    Da ni’n sgwrsio am y sin gigs Cymraeg dros yr haf, ein dream line-ups, a jyst yn trafod popeth o gerddoriaeth i Y Llais😂

    Os wyt ti’n caru gigs, neu eisiau dechrau mynd i fwy - mae hwn i ti 🎶


    In this episode of Sŵntrack, I sit down with Jona from Awni - the new platform making it easier than ever to find Welsh-language gigs across Wales. With the launch of their brand new app, everything you need is now in one place 👀

    We chat about the Welsh gig scene this summer, our dream line-ups, and everything from music to Y Llais 😂

    If you love live music - or want to get into the scene more - this one’s for you 🎶

    Show More Show Less
    21 mins
  • Pennod 8 - Dydd Miwsig Cymru gyda Cati & Cadi
    Feb 13 2026

    Pennod arbennig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru!

    Yn y bennod yma dwi’n cael sgwrs ysgafn a hwyliog gyda Cati a Cadi - yn gyfarwydd i lawer ohonoch chi o Cyw a Stwnsh, ac hefyd yn canu cefndir i Tara Bandito.

    Ni’n sgwrsio am bopeth o’u cefndir gyda cherddoriaeth Gymraeg, gigs gorau, artistiaid maen nhw’n caru, at pam mae cerddoriaeth Cymraeg mor bwysig heddiw. Mae’n bennod glên, chwerthinllyd, a llawn cariad at y sîn.

    Perffaith i wrando arni ar Ddydd Miwsig Cymru... neu unrhyw ddiwrnod, a dweud y gwir.


    A special episode for Welsh Language Music Day!

    In this episode I’m joined by Cati and Cadi - who many of you will recognise from Cyw and Stwnsh, and who also sing backing vocals for Tara Bandito.

    We chat about their journeys with Welsh-language music, favourite gigs, artists they love, and why Welsh music matters so much today. It’s a light, fun conversation packed with laughs and love for the scene.

    Perfect listening for Welsh Language Music Day... or any day, really.

    Show More Show Less
    22 mins
  • Pennod 7 | Nadolig gyda Bronwen Lewis
    Dec 23 2025

    Wrth gloi Season 1 o Sŵntrack, dyma’n arbennig Nadolig gyda Bronwen Lewis! Rydyn ni’n sgwrsio am gerddoriaeth, ei thraddodiadau Nadolig, a chymryd cipolwg y tu ôl i’r llen ar Y Llais. Ffordd gynnes a hwyliog o gloi’r tymor cyntaf - diolch am wrando, a Nadolig Llawen!

    Show More Show Less
    37 mins
No reviews yet